Categorïau
Newyddion

Ymateb Rhys ab Owen, ymgeisydd annibynnol (Caerdydd Penarth)

Dyma ymateb Rhys ab Owen, ymgeisydd annibynnol yn etholaeth Caerdydd Penarth, i’r e-bost am addysg Gymraeg. Derbynwyd yr ymateb ar 25 Ebrill 2026.

Diolch yn fawr am yr ebost. Fel un gafodd ei eni a’i addysgu trwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd, mae addysg Gymraeg yn y brifddinas yn bwysig iawn i fi. Dwi’n hapus iawn i barhau i gefnogi’r gofynion. Dwi ar record yn gofyn am ysgol Gymraeg newydd yn ne Caerdydd ar nifer o achlysuron yn y Senedd i’r Prif Weinidog, Ysgrifennydd Cabinet y Gymraeg a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. Dwi hefyd wedi codi hyn ar nifer o achlysuron gyda chyngor Caerdydd ac wedi gwneud yn glir na ddylai fod ar draul addysg yn Nwyrain y sir.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau pellach byddwn i’n hapus i’w hateb.