Dyma ymateb Plaid Cymru yn etholaeth Caerdydd Penarth i’r e-bost am addysg Gymraeg. Derbynwyd yr ymateb ar 30 Ebrill 2026.
Rydym yn cefnogol o’ch ymgyrch. Mae dau o’n hymgeisyddion yn cyn-ddisgyblion Plasmawr, ac mae gan nifer ohonom teulu agos yn mynychu Glantaf ar hyn o bryd, felly rydym yn adnabod y sefyllfa pryderus sydd yn wynebu addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Fel ein prifddinas, rydym yn credu dylai’r ddinas fod yn lle i’r iaith ffynnu, a rydym ni am wneud beth gallwn ni i sicrhau fod hyn gallu digwydd.
1. Cymraeg i bawb
Mae’r Gymraeg yn iaith sydd yn perthyn i bawb sydd yn byw yma waeth beth fo’u cefndir, ac rydym eisiau sicrhau bod gan pawb y cyfle i gael mynediad at addysg Gymraeg os ydynt yn dymuno. Fel rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol anhygyrch a’n presennol, credwn y dylai pobl gael y cyfle i ymgysylltu a’r iaith.
2. Ysgol Bob Oed (3-19) cyfrwng Cymraeg Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos
Rydym yn cefnogi sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer De Caerdydd fel rhan o fenter ehangach i wella addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.
3. Gwarchod a buddsoddi yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Ni ddylid symud Bro Edern allan o Ddwyrain Caerdydd. Byddai hyn yn creu bwlch sylweddol yng ngallu plant o’r dwyrain i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Credwn, fel rhan o fenter ehangach i wella addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd, y dylid uwchraddio cyfleusterau ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol. Mae hyn yn cynnwys ariannu Bro Edern yn ddigonol, yn ogystal â’r ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill sy’n bodoli eisoes.
4. Rhaglen fuddsoddi
Credwn ni y dylai pob plentyn ddysgu mewn amgylchedd priodol. Nid yw cyflwr presennol y seilwaith ym Mhlasmawr, Glantaf a Bro Edern yn dderbyniol, a bydd Plaid Cymru yn dwyn Cyngor Caerdydd i gyfrif yn siambr y cyngor. Bydd Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd hefyd yn rhoi pwysau ar Gyngor Caerdydd i ddatrys hyn.
5. Rhaglen o dŵf
Byddwn yn rhoi pwysau ar Gyngor Caerdydd i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn y ddinas yn unol â’r gyfraith.
Gobeithio bod hyn wedi rhoi’r atebion rydych chi’n chwilio amdanynt. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’r ebost.