Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd: e-bostiwch ymgeiswyr Senedd nawr

Bydd etholiad i’r Senedd ar 7 Mai 2026. Os ydych chi’n pleidleisio yng Nghaerdydd, mae’r wefan hon yn adnodd i chi.

Bydd aelodau’r Senedd sy’n ein cynrychioli ni yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.

Er bod gan Gyngor Caerdydd ei rôl hanfodol i’w chwarae, mae hwn yn gyfle mawr i dynnu sylw ymgeiswyr y Senedd i’r angen i dyfu addysg Gymraeg yn y ddinas.

E-bostiwch nhw i ofyn iddyn nhw addo cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Gallwch chi ddilyn y camau isod, bydd yn cymryd 3 munud.

Beth yw fy etholaeth i?

Os nad ydych chi’n gwybod eich etholaeth, ewch i’r map hwn a chwiliwch am eich cod post. Edrychwch am “Etholaeth Newydd” yn y canlyniad (nid “Etholaeth Bresennol”).

Templed i chi e-bostio

  1. Ewch i’ch ap neu system e-bost.
  2. Crëwch neges e-bost newydd.
  3. Copïwch y testun isod. Gludwch y testun yn eich neges.

    Annwyl ymgeisydd Senedd 2026

    Fel rhan o’ch cyfrifoldeb fel ymgeisydd yn y ddinas yn etholiadau Senedd Cymru 2026, gofynnwn ichi ddatgan eich cefnogaeth i’r ymrwymiadau canlynol i ddatblygu addysg Gymraeg yn y ddinas.

    Dymunwn gael eich ymatebion yn brydlon am fod gennym fwriad cyhoeddi eich ymatebion i’r cyhoedd eu hystyried. Os bydd unrhyw ymgeiswyr heb ymateb, byddwn yn cyhoeddi hynny hefyd. Dyma rai o’r llinellau coch y dymunwn eich ymrwymiad arnynt –

    1. Cymraeg i bawb

    Dymunwn ichi ymrwymo fod y Gymraeg yn perthyn i bawb o bob cefndir a bod dilyniant addysg Gymraeg gymunedol yn hawl i bob plentyn yn unol ag un o brif egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru; ymrwymo i gefnogi’r egwyddor y dylai pob un mewnfudwr a cheisiwr lloches a’u teuluoedd gael mynediad cynnar a hawdd at addysg Gymraeg; ymrwymo i gefnogi’r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    2. Ysgol Bob Oed (3-19) cyfrwng Cymraeg Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos

    Dymunwn ichi ymrwymo i gefnogi sefydlu ysgol bob oed (3-19 oed) Gymraeg (sy’n cynnwys meithrin, cynradd ac uwchradd) gydag adnoddau helaeth i’r gymuned wedi ei lleoli ac i wasanaethu plant a theuluoedd Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos yn ne’r ddinas a hynny ar unwaith. Dymunwn eich cytundeb fod angen ysgolion cyfrwng Cymraeg o’r meithrin i’r uwchradd ar bob pwynt cwmpawd o’r ddinas.

    3. Gwarchod a buddsoddi yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

    Dymunwn ddatganiad di-amwys gennych na ddylid symud Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern o galon cymuned dwyrain Caerdydd a bod angen uwchraddio adnoddau’r ysgol i adeilad uchel ei safon sy’n ffit i bwrpasau addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain.

    4. Rhaglen fuddsoddi

    Dymunwn ichi ymrwymo i gefnogi rhaglen drawsnewidiol Caerdydd-gyfan sy’n mynd i’r afael â safon adeiladau Glantaf, Plasmawr, a Bro Edern a’ch bod yn dal Cyngor Caerdydd i gyfri am eu methiannau hyd yma.

    5. Rhaglen o dŵf

    Dymunwn i chi ymrwymo i bwyso ar Gyngor Caerdydd i weithredu rhaglen o dŵf sylweddol mewn addysg Gymraeg, gyda chynnydd cyflym a sylweddol yng nghyfran y plant fydd yn dechrau mewn addysg gyfrwng Gymraeg ar draws y ddinas dros y blynyddoedd nesaf, a hynny’n unol â chyfrifoldeb y Cyngor yn sgil Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Dylai pob ysgol gynradd newydd yng Nghaerdydd fod yn un cyfrwng Cymraeg.

    Am restr o’r grwpiau a mudiadau sy’n cefnogi’r neges hon ewch i www.dinas.cymru

    Edrychwn ymlaen at gael eich ymatebion yn brydlon.


    ***mewnosod eich enw***
    ***mewnosod eich cyfeiriad neu ardal***

  4. Rhowch eich enw ar ddiwedd y neges.
  5. Rhowch eich cyfeiriad neu ardal i mewn – er mwyn cyfleu eich bod yn byw yn yr etholaeth.
  6. E-bostiwch y neges at eich ymgeiswyr…

    Caerdydd Penarth

    Os ydych chi’n byw yn etholaeth Caerdydd Penarth dyma restr o gyfeiriadau e-bost ymgeiswyr i chi eu gludo yn y maes At (neu To) o’ch e-bost.

    wales@communistparty.org.uk,calum.davies@cardiff.gov.uk,james@cardiffwestconservatives.com,info@welshconservatives.com,cdp@plaid.cymru,neil.mcevoy@propel.wales,post@propel.wales,leader@greenparty.wales,tessa.marshall@greenparty.wales,caerdydd.penarth@greenparty.wales,info@cplabour.wales,cadan@cadanaptomos.cymru,enquiries@libdems.wales,rhysabowen@hotmail.com

    Caerdydd Ffynnon Taf

    Os ydych chi’n byw yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf dyma restr o gyfeiriadau e-bost ymgeiswyr i chi eu gludo yn y maes At (neu To) o’ch e-bost.

    mail@joeljames.wales,samanthachohancandidate@gmail.com,info@welshconservatives.com,lhudson@cardiff.gov.uk,cdft@plaid.cymru,post@propel.wales,paul.rock@greenparty.wales,caerdydd.ffynnon.taf@greenparty.wales,caerdyddffynnontaflabour@gmail.com,daniel.death@cardiff.gov.uk,bernie.bowen-thomson@cardiff.gov.uk,rodney.berman@welshlibdems.org.uk,enquiries@libdems.wales,info@tusc.org.uk

    Nodwch ein bod wedi dileu’r cyfeiriadau gwreiddiol yn nhestun y neges i’r angen i ymgeiswyr ymateb erbyn 30 Ebrill 2026, er mwyn i chi gael cyfle estynedig i gysylltu ag eich ymgeiswyr cyn yr etholiad.