Dyma ymateb Dafydd Trystan, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf, i’r e-bost am addysg Gymraeg. Derbynwyd yr ymateb ar 28 Ebrill 2026.
Diolch yn fawr am eich neges. Fydd hi ddim yn syndod i chi ddeall mod i’n cefnogi’r galwadau yma yn fawr iawn.
Mi wnes i sgwennu at Sarah Merry fel rhan o’r ymgynghoriad, ac rwy’n nodi’r llawn fy llythyr iddi islaw,
Cofion atoch,
Dafydd
Mae’r ymateb yn cynnwys copi o lythyr at Gyng Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyngor Caerdydd.
Annwyl Cynghorydd Merry
Addysg Uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd
Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i’r ymgynghoriad presennol ar ddyfodol Addysg Uwchradd yn y brifddinas.
Rwy’n gwneud hynny yn dilyn oes o ymgyrchu a gweithredu ym maes addysg Gymraeg ac fel y gwyddoch fel un o’r rhai sy’n gobeithio cynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf yn Senedd Cymru fis Mai.
Dros y blynyddoedd rwy’ wedi:
- Gweithio am bron i 20 mlynedd fel Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn datblygu Addysg Uwch a Phellach yng Nghymru
- Ymgyrchu dros ehangu Addysg Gymraeg yma yn y brifddinas a thu hwnt
- Sefydlu a Chadeirio Ysgol Hamadryad – ysgol gynradd Gymraeg gymunedol hynod lwyddiannus yng Nghaerdydd
- A gweithredu fel ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd Cenedlaethol Cronfa Glyndwr yr Ysgolion Cymraeg – elusen sy’n cefnogi ysgolion a chylchoedd meithrin Cyfrwng Cymraeg.
Rwy’n cyflwyno fy sylwadau fel unigolyn gan dynnu ar y profiadau yma oll.
Yn greiddiol mae’r ymgynghoriad yn seiliedig ar fethiant hanesyddol – methiant Cyngor Caerdydd i gynllunio’n hir dymor ar gyfer datblygiad addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas. Wrth ystyried y twf yn addysg Gymraeg fe ddylid fod wedi cynllunio yn llawn ac yn effeithiol ar gyfer 4 ysgol uwchradd yn y brifddinas ers tro; a hynny yn gwbl rhesymegol yn gwasanaethu De, Dwyrain, Gogledd a Gorllewin y brifddinas.
Fe welais dystiolaeth o’r diffyg cynllunio ar lefel syml yn fy ngwaith fel llywodraethwr ysgol. Fe ddywedwyd taw llai na 30 o ddisgyblion a fyddai’n dod i Ysgol Hamadryad yn flynyddol. Roeddwn i o farn gwahanol, a hynny yn seiliedig ar brofiad a thystiolaeth – wrth adeiladu darpariaeth atyniadol gymunedol Gymraeg mae’r niferoedd yn cynyddu’n sylweddol; ac felly a bu ac mae tua 60 o ddisgyblion yn flynyddol erbyn hyn yn dewis Ysgol Hamadryad.
Mae dybryd angen felly cynllunio i’r dyfodol rhag blaen ac fel rhan o’r cynllunio hwnnw gosod rhaglen buddsoddiad cyfalaf mewn lle ar gyfer y tair ysgol presennol – gan gynnwys yn benodol Ysgol Bro Edern. Mae’r diffyg buddsoddiad yn adnoddau ysgolion cyfun Cymraeg y brifddinas dros y ddegawd diwethaf yn druenus a rhaid adfer y sefyllfa hwnnw ar unwaith.
Mae angen felly ar Gaerdydd pedair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Mae hynny’n golygu cynnal ysgol uwchradd yn y dwyrain, Ysgol Bro Edern – a sicrhau fod safle’r ysgol hwnnw yn derbyn buddsoddiad llawn ac addas yn y blynyddoedd sy’n dod i uwchraddio’r safle; a bod trefniadau dros dro priodol yn cael eu gwneud fel bo’r angen wrth i’r gwaith hwnnw symud yn ei flaen.
Mae’n golygu hefyd cychwyn y broses o sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn y de rhag blaen (gall hynny fod ar sail ysgol 3-18 wrth gwrs). Mae addysg Gymraeg yn tyfu yn ne Caerdydd yn gryf iawn – yn rhannol o ganlyniad i’r gwaith y bues i, a nifer o addysgwyr eraill yn rhan ohono. Ar hyn o bryd mae peryg fod cymunedau mwyaf difreintiedig, yn ogystal a rhai o gymunedau mwyaf amlieithog amlethnig y brifddinas yn cael eu hamddifadu o addysg uwchradd Gymraeg – oherwydd diffygion cynllunio addas gan Gyngor Caerdydd.
Erfyniaf arnoch felly i symud ymlaen rhag blaen yn dilyn yr ymgynghoriad hwn i:
- Buddsoddi’n addas i uwchraddio cyfleusterau Ysgol Bro Edern
- Cychwyn y gwaith yn syth i agor Ysgol Gymraeg Uwchradd newydd i dde Caerdydd
Rwy’n deall hefyd fod dros 300 o Ysgol Bro Edern (a’r ysgolion sy’n bwydo’r ysgol) wedi ysgrifennu atoch fel rhan o’r ymgynghoriad ac yn falch iawn i weld hefyd ymgyrch rymus yn Ne Caerdydd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb. Mae lleisiau pobl Caerdydd yn glir ar y materion hyn – daeth yr amser i’r Cyngor ymateb,
Yn gywir iawn
Dr Dafydd Trystan Davies