Dyma ymateb Paul Rock, ymgeisydd Plaid Werdd Cymru yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf, i’r e-bost am addysg Gymraeg. Derbynwyd yr ymateb ar 3 Mai 2026 (ar ôl y dyddiad cau o 30 Ebrill 2026 a fynegwyd yn y llythyr gwreiddiol).
Annwyl ___,
Mae’n ddrwg gen i nad yw fy Nghymraeg yn ddigon da. Gobeithio y bydd fy ateb yn Saesneg yn dderbyniol.
Nodwch mai dyma ein cyfieithiad ni i’r Gymraeg o weddill ei ymateb. Mae’r neges wreiddiol ar gael (Saesneg/English).
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr amser i gysylltu ar fater pwysig iawn sef mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae Plaid Werdd Cymru yn rhagweld Cymru lle mae diwylliant yn fyw, yn esblygu ac yn cael ei siapio gan bawb sy’n ei galw’n gartref; lle nad yw diwylliant yn ddewis ychwanegol ond yn sylfaen i lesiant cenedlaethol. Ein nod yw Cymru ddwyieithog hyderus lle mae’r Gymraeg yn ffynnu ym mywyd beunyddiol a lle mae newydd-ddyfodiaid yn cael eu croesawu i gymunedau diwylliannol ac ieithyddol y wlad.
Dylai pawb gael yr hawl, a’r cyfle, i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a chryfhau’r Gymraeg.
Byddwn yn cyflwyno Bil Diwylliant sy’n gwarantu mynediad i bob cymuned at ofodau, gwasanaethau a chyfleoedd diwylliannol. Bydd y Bil yn cryfhau defnydd y Gymraeg mewn cymunedau a bywyd cyhoeddus, a bydd gofyn i gyrff cyhoeddus gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd a gwasanaethau yn weithredol.
Bydd cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cael eu hehangu mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol, a bydd polisi cynllunio a thai yn cefnogi cymunedau cynaliadwy sy’n siarad Cymraeg, megis trwy opsiynau perchnogaeth gymunedol mewn ardaloedd lle mae pwysau tai yn bygwth goroesiad yr iaith.
Bydd dysgu Cymraeg hygyrch ac am ddim ar gael i bobl o bob oed, a thrwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, byddwn yn ehangu rhaglenni hyfforddi athrawon, gan gynnwys cyrsiau trochi iaith sy’n helpu addysgwyr newydd i ddatblygu sgiliau addysgu’r Gymraeg.
Rydym hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ysgolion gwledig yn ei chwarae ym mywyd cymunedol ac wrth gynnal y Gymraeg. Byddwn yn rhoi terfyn ar gau ysgolion gwledig bach, gan gydnabod eu pwysigrwydd i gymunedau lleol.
Os caf fy ethol i’r Senedd, byddaf yn gweithio’n galed i amddiffyn a chryfhau’r iaith Gymraeg ac ehangu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Diolch am eich ymroddiad i’r achos pwysig hwn.
Pob dymuniad da,
– Paul Rock, Ymgeisydd arweiniol y Blaid Werdd ar gyfer Caerdydd Ffynnon Tâf, etholiadau Senedd 2026