Categorïau
Newyddion

Ymateb Anthony Slaughter, ymgeisydd Plaid Werdd Cymru (Caerdydd Penarth)

Dyma ymateb Anthony Slaughter, ymgeisydd Plaid Werdd Cymru yn etholaeth Caerdydd Penarth, i’r e-bost am addysg Gymraeg. Derbynwyd yr ymateb ar 30 Ebrill 2026.

Nodwch mai’r testun yw ein cyfieithiad Cymraeg o’i ymateb. Mae’r neges wreiddiol ar gael (Saesneg/English).

1. Cymraeg i bawb

Mae’r Gwyrddion yn cefnogi’r targed o 1 miliwn o siaradwyr, ond mae angen gwneud llawer mwy i’w wireddu, nid cicio cynnydd i’r glaswellt hir. Rydym am i addysg Gymraeg fod ar gael i bawb ar lawr gwlad, yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig ac amrywiol o ran ethnigrwydd, fel y gall pob plentyn gael yr addysg gyfoethog hon. Rydym hefyd am gael mwy o wersi Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

2. Ysgol Bob Oed (3-19) cyfrwng Cymraeg Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos

Rwy’n cefnogi’r ymgyrch hon, ac yn falch o’r gwaith y mae ein cynghorydd Gwyrdd lleol wedi’i wneud gydag ymgyrchwyr i gynyddu’r pwysau ar Gyngor Caerdydd i gael yr ysgol hon wedi’i hadeiladu. Rwy’n gweithio i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yn ymarferol ym mhob ardal o’r ddinas.

3. Gwarchod a buddsoddi yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Dylai Bro Edern aros lle mae a derbyn yr uwchraddiadau sydd eu hangen i roi addysg o ansawdd uchel i ddysgwyr.

4. Rhaglen fuddsoddi

Rydym wedi gweld rhaglen o adeiladu ysgolion newydd mewn rhai rhannau o’r ddinas, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn haeddu’r un lefel o fuddsoddiad ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag ymgyrchwyr i ddwyn y cyngor i gyfrif a sicrhau gweithredu go iawn.

5. Rhaglen o dŵf

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gwbl ddiffygiol o ran uchelgais i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig gyda’r angen brys i ddarparu ysgol uwchradd i deuluoedd yn Nhre-biwt a Grangetown – mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.

 

Rydym wedi clywed llawer o eiriau cynnes am y targed miliwn o siaradwyr a Chymraeg i Bawb, ond nid yw’n gwneud llawer os na fyddwn yn rhoi’r sylw sydd ei angen i addysg cyfrwng Cymraeg ar lawr gwlad, gyda Llywodraeth nesaf Cymru yn defnyddio pob lifer sydd ganddi i newid hyn. Mae angen i ni symud i ffwrdd o’r model presennol lle mae angen i rieni ddangos galw gweithredol i un lle rydym yn gwybod y bydd llawer mwy o deuluoedd yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg os yw ar gael.