Categorïau
Newyddion

Ymateb Robert Griffiths, ymgeisydd Plaid Gomiwnyddol Prydain (Caerdydd Penarth)

Dyma ymateb Robert David Griffiths, ymgeisydd Plaid Gomiwnyddol Prydain yn etholaeth Caerdydd Penarth, i’r e-bost am addysg Gymraeg. Derbynwyd yr ymateb ar 28 Ebrill 2026.

1. Cymraeg i bawb

 

Rwyf wedi datgan mewn cyfarfodydd ac yn gyhoeddus mod i’n credu taw eiddo holl bobl Cymru yw’r Gymraeg, ‘ta waeth yw mamiaeth unrhywun sy’n byw yng Nghymru neu sy’n mewnfudo. Mae’n anfodol felly i scirhau bod teuluoedd sy’n dod i fyw yng Nghymru’n cael pob gefnogaeth i gyfrannu at gyflawni’r amcan hon. Cefnogais yr amcan o greu Cymru Gymraeg ei hiaith ar gyfer 50 y cant o’r boblogaeth o leiaf erbyn canol y ganrif hon, wrth annerch cynhadledd flynyddol Cymdeithas yr Iaith fel siaradwr gwadd 10 neu 15 mlynedd yn ol.

 

2. Ysgol Bob Oed (3-19) cyfrwng Cymraeg Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos

 

Fel rhywun a ymgyrchodd ynghyd a’r diweddar Owen John Thomas AS gynt, a’m chwaer hynaf, i sefydlu Ysgol Meithrin yn Ysblot dros 20 mlynedd yn ol, rwy’n cefnogi’r amcanion hyn cant y cant. Aeth plant fy chwaer ymlaen i fwynhau buddianau addysg Gymraeg yn y diwedd (fel pob un o’m plant i yn Y Rhath).

 

3. Gwarchod a buddsoddi yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

 

Aeth pob un o’m merched i i’r ysgolion cyfun Cymraeg Bro Edern neu Glantaf. Wrth gwrs, rhaid i’r ysgolion hyn fwynhau’r safonau gorau posib o ran cyfleusterau ac adnoddau, fel y dylai pob ysgol yng Nghymru.

 

4. Rhaglen fuddsoddi

 

Derbynaf yn llwyr yr ymrwyniad hwn.

 

5. Rhaglen o dŵf

 

Mae twf addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn codi fy nghalon i fel brodor Caerdydd! Ond mae wedi bod yn frwydr caled i sicrhau’r twf hwn – rhaid sicrhau nad yw gelynion yr iaith yn ennill tir yn yr etholiadau ym mis Mai. Rwyf wedi dangos fy lliw o blaid y Gymraeg yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.

Mae'r sylwadau wedi cau.