Dyma ymateb Neil McEvoy, ymgeisydd Propel Cymru yn etholaeth Caerdydd Penarth, i’r e-bost am addysg Gymraeg. Derbynwyd yr ymateb ar 3 Mai 2026 (ar ôl y dyddiad cau o 30 Ebrill 2026 a fynegwyd yn yr e-bost gwreiddiol).
Annwyl ___
Diolch am eich ebost ac am nodi eich blaenoriaethau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyn etholiad y Senedd yn 2026. Rwy’n falch iawn o ymateb.
Gadewch i mi fod yn glir o’r cychwyn: mae fy ymrwymiad i’r Gymraeg ac i addysg cyfrwng Cymraeg yn gwbl gadarn. Mae fy mab yn mynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ac rwyf innau wedi bod yn dysgu Cymraeg ers fy 30au cynnar.
Rwy’n credu’n gryf fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, waeth beth fo’u cefndir, ac y dylai mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg fod yn hawl i bob plentyn. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein Cytundeb gyda Chymru, lle rydym yn ymrwymo i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, buddsoddi mewn addysg drochi, a sicrhau bod pob ysgol newydd yn ysgol cyfrwng Cymraeg lle bynnag y bo modd.
Rwy’n cefnogi’r egwyddor o “Gymraeg i bawb”. Rhaid i blant o bob cefndir — gan gynnwys teuluoedd mewnfudol a cheiswyr lloches — gael mynediad cynnar a hawdd at addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn hanfodol i’n dyfodol, ac rwy’n cefnogi’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr.
Mae angen clir am ysgol pob oed cyfrwng Cymraeg yn gwasanaethu Butetown, Grangetown a’r ardaloedd cyfagos, ac rwy’n cefnogi cyflawni hyn fel blaenoriaeth. Yn ehangach, mae angen darpariaeth gadarn ar draws pob rhan o’r ddinas, gyda buddsoddiad sylweddol ar lefel cyn-ysgol, cynradd ac uwchradd.
Rwyf hefyd yn cefnogi cadw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern wrth galon ei chymuned, gyda’r buddsoddiad angenrheidiol i sicrhau cyfleusterau modern o safon uchel. Fel y gwyddoch efallai, cafodd yr ysgol ei chynllunio a’i datblygu yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Arweinydd, cyn iddi agor ym mis Medi 2012.
Yn ehangach, mae’r angen am bedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd, ond mae Llafur wedi methu gweithredu. Byddaf yn parhau i ddal Cyngor Caerdydd i gyfrif am ei fethiant i fuddsoddi’n briodol mewn seilwaith addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys yn Nglantaf a Phlasmawr.
Mae angen rhaglen dwf wirioneddol hefyd. Mae safbwynt Propel yn glir: dylai pob ysgol newydd fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, a rhaid inni gynyddu’n sylweddol nifer y plant sy’n mynd i addysg cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy’n falch o’m hanes yn y maes hwn.
Yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd rhwng 2008 a 2012, agorwyd chwe ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg — yr ehangu mwyaf yn hanes y cyngor. Sicrhawyd buddsoddiad sylweddol hefyd, gan gynnwys dros £6.3 miliwn ar gyfer Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a dros £5.3 miliwn ar gyfer Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, yn ogystal â datblygu Bro Edern.
Mewn cyferbyniad, mae’r cynnydd ers 2012 wedi bod yn rhy araf, gyda diffyg ehangu a buddsoddiad annigonol o dan weinyddiaeth Llafur.
Cafodd yr ysgol gynradd cyfangwbl Gymraeg ddiwethaf i agor yng Nghaerdydd — Ysgol Hamadryad — ei chytuno a’i hariannu’n llawn cyn i mi adael swydd yn 2012. Gorfododd tro pedol Llafur ar hynny i rieni drefnu ac ymladd dros yr hyn a oedd eisoes wedi’i sicrhau.
Rwy’n falch fy mod wedi helpu i ddod â’r gymuned ynghyd, gan drefnu cyfarfod cymunedol yn nhafarn y Cornwal a arweiniodd at ffurfio ymgyrch TAG. Mae’r ysgol honno’n bodoli heddiw oherwydd yr ymgyrch honno — nid oherwydd arweinyddiaeth Llafur.
Os caf fy ethol i’r Senedd, byddaf yn parhau i hyrwyddo twf addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Caerdydd a Chymru gyfan.
Byddwn yn fwy na pharod i gael sgwrs bellach am sut y gallwn gefnogi’r ymgyrch.
Yn gywir,
Neil McEvoy
Prif Ymgeisydd Propel – Caerdydd Penarth